Gwobr Dysgwr VQ y Flwyddyn (Lefel Uwch)

Mae enwebiadau VQ nawr ar gau am 2019.

Mae Gwobr Dysgwr VQ y Flwyddyn (Lefel Uwch) yn gwobrwyo llwyddiant galwedigaethol rhagorol gan ddysgwyr. Rhaid darparu tystiolaeth sy’n dangos sut y mae cymwysterau galwedigaethol wedi helpu rhywun i lwyddo, a hynny mewn ffordd sy’n ei alluogi i serennu o’i gymharu â’i gyfoedion.
Bydd y dysgwr galwedigaethol lefel uwch wedi cwblhau cymhwyster galwedigaethol yng Nghymru ar lefel 4 neu uwch ar FfCChC, a hwnnw wedi’i roi gan gorff dyfarnu neu sefydliad addysg uwch cydnabyddedig. Bydd angen tystiolaeth, gan y corff dyfarnu neu’r sefydliad addysg uwch, bod y cymhwyster wedi’i ennill cyn i’r beirniaid wneud unrhyw benderfyniad terfynol (fel arfer, tystysgrif fydd y dystiolaeth hon).

Yn achos pob enwebiad:

  • dylai enwebydd nad yw’n perthyn i’r dysgwr (fel arfer darlithydd, cyflogwr neu ddarparwr dysgu) gwblhau’r enwebiad
  • dylid cynnwys datganiad tystiolaeth gan ganolwr, a bydd hwn yn cael ei farcio (gweler isod)
  • bydd angen datganiad personol gan yr enwebai ei hun

Dylai’r canolwr fod yn rhywun sy’n gallu cynnig safbwynt gwahanol i’r enwebydd, er enghraifft:

  • y darparwr dysgu presennol neu ddarparwr dysgu blaenorol
  • cyflogwr neu sefydliad gwirfoddol
  • rhywun sy’n gallu cynnig safbwynt ar yr hyn y mae’r enwebai wedi’i gyflawni

Mae croeso ichi enwebu nifer o bobl ond dim ond un enwebiad ar gyfer pob gwobr a ganiateir o bob sector galwedigaethol (ee arlwyo, gofal, adeiladu, cyfrifeg, peirianneg, TGCh).

Bydd dyblygu gwybodaeth yn yr enwebiadau yn arwain at anghymhwyso’r sawl sy’n cael ei enwebu.

Bydd y beirniaid yn chwilio am y pethau hyn:

  • Tystiolaeth o lwyddiant galwedigaethol a rhagoriaeth yn y maes dan sylw.
  • Tystiolaeth bod siwrnai’r enwebai drwy ei gymwysterau a’i addysg alwedigaethol wedi dylanwadu’n uniongyrchol ar ei gynnydd – sut y mae’r wybodaeth a gafwyd o’r cymhwyster galwedigaethol wedi helpu’r enwebai i ddatblygu’n broffesiynol ac yn bersonol.
  • Tystiolaeth o sut y mae’r enwebai wedi rhagori ar ei gyfoedion wrth gyflawni – sut y mae wedi mynd gam ymhellach na’r hyn sy’n ddisgwyliedig, a sut y mae wedi serennu, gan gyfrannu rhywbeth at yr amgylchedd gweithio a’r gymuned ehangach?
  • Rhaid i enwebiadau ar gyfer Dysgwr VQ y Flwyddyn (Lefel Uwch) ddod i law erbyn 12.00 canol dydd Amser Haf Prydain (BST) ddydd Gwener 8 Mawrth 2019. Bydd y sawl sy’n cyrraedd y rownd derfynol yn cael gwybod erbyn dydd Iau 28 Mawrth 2019.

    Bydd yr enillydd a’r rhai sy’n cyrraedd y rownd derfynol yn cael eu dewis o’r holl enwebiadau gan ddefnyddio’r meini prawf ar gyfer beirniadu. Gwahoddir pawb sy’n cyrraedd y rownd derfynol i’r seremoni wobrwyo yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, lle caiff Dysgwyr VQ y Flwyddyn (Lefel Uwch) 2019 Cymru eu cyhoeddi.

    ===